Llosgfynydd Eyjafjallajokull, ffrwydrodd y llynedd
Mae Gwlad yr Iâ wedi gorfod cau ei brif faes awyr heddiw ar ôl i losgfynydd ffrwydro ar yr ynys gan daflu lludw 12 milltir i’r wybren.

Dywedodd llefarydd ar ran maes awyr Keflavik ei fod ar gau ac na fyddai unrhyw awyrennau yn cael gadael na chyrraedd am y tro.

Roedd y cwmwl lludw wedi gorchuddio rhan helaeth o Wlad yr Iâ, meddai Hjordis Gudmundsdottir.

“Ond y newyddion da yw nad yw’n mynd i gyfeiriad Ewrop,” meddai.

Dywedodd eu bod nhw’n ymchwilio i weld a fyddai’n bosib i feysydd awyr llai Gwlad yr Iâ dderbyn awyrennau oedd ar eu ffordd i Keflavik.

Dyw hi ddim yn amlwg eto a fydd y ffrwydrad diweddaraf yn achosi’r un ffwdan a llosgfynydd Eyjafjallajokull y llynedd.

Ym mis Ebrill y llynedd bu’n rhaid atal bob awyren yn Ewrop dros gyfnod o bum diwrnod, yn sgil pryderon y gallai’r lludw wneud niwed i injans awyrennau.

Cafodd tua 10 miliwn o deithwyr eu dal ymhell o adref gan y trafferthion.

Ffrwydrodd llosgfynydd Grimsvotn, sydd ar rewlif Vatnajokull tua 120 milltir o Reykjavik, ddoe am y tro cyntaf ers 2004.

Dywedodd y geo-ffisegwr Magnus Tumi Gudmundsson o Brifysgol Gwlad yr Iâ fod y ffrwydrad diweddaraf 10 gwaith yn fwy na ffrwydrad 2004.

Roedd hwnnw wedi parhau sawl diwrnod a gorfodi i gwmnïau awyrennau ganslo teithiau i mewn ac allan o Wlad yr Iâ.

Dywedodd geo-ffisegwr arall, Pall Einarsson, nad oedd yn credu y byddai ffrwydrad Grimsvotn yn cael yr un effaith a ffrwydrad Eyjafjallajokull.

“Roedd llwch Eyjafjallajokull ddi-baid ac yn fân iawn,” meddai.

“Mae llwch Grimsvotn yn fwy garw ac yn debygol o ddisgyn i’r ddaear yn weddol gyflym.”