Heddlu Irac yn ymarfer
Mae dau ffrwydrad wedi lladd 22 o bobol – y rhan fwyaf yn heddweision – yn Kirkuk, Gogledd Irac.

Roedd tua 52 o bobol wedi eu hanafu hefyd ac fe gafodd rhagor o bobol niwed mewn trydydd ymosodiad ar batrol heddlu.

Mewn un ysbyty, yn ôl adroddiadau lleol, roedd rhai o’r bobol glwyfedig yn gorwedd ar y llawr oherwydd bod gwelyau’r ysbyty yn llawn cleifion.

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad cyntaf mewn maes parcio yn Kirkuk am 9 y bore a’r ail ychydig wedyn. Fe gafodd pencadlys heddlu’i ddinistrio.

Roedd y trydydd ffrwydrad wedi llosgi ceir  a thryciau wrth ffrwydro tua 550 llathen i ffwrdd.

Mae gwrthdaro yn yr ardal oherwydd bod y Cwrdiaid, yr Arabiaid a’r Turkomen yn honni mai nhw sy’n berchen ar yr adnoddau olew sylweddol sydd yno.