Y cwt colomennod
Mae tua 350 o bobol o ddwy ardal yn Sir Benfro wedi galw am dynnu pwerau cynllunio oddi ar Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae pobol pentre’ Dinas yn protestio am fod y Parc wedi gwrthod caniatâd i ddyn lleol godi cwt colomennod pren sydd wedu eu guddio gan glawdd.
Ym nhref gyfagos Trefdraeth, mae trigolion yn anhapus â’r ffordd yr oedd y Parc wedi delio â chais i godi tŷ – fe gafodd yr Awdurdod ei feirniadu’n hallt am 15 o gamgymeriadau’n ystod y broses.
Yn ôl stori yng nghylchgrawn Golwg, mae cynghorydd lleol ymhlith trefnydd y ddeiseb ond mae Prif Weithredwr y Parc, Tegryn Jones, wedi gwrthod y feirniadaeth.
Y stori’n llawn yn y rhifyn diweddara’ o Golwg