Dominique Strauss-Kahn
Mae Dominique Strauss-Kahn wedi ymddiswyddo o fod yn bennaeth y Gronfa Ariannol Ryngwladol, yr IMF.
Mae’r Ffrancwr yn wynebu cyhuddiadau o ymosodiad rhywiol a threisio yn erbyn morwyn mewn gwesty moethus yn Efrog Newydd ddydd Sadwrn.
Ond yn ei lythyr ymddiswyddo, mae Dominique Strauss-Kahn wedi nodi ei fod yn ddieuog ac y byddai’n treulio ei amser yn profi hynny.
“Gyda thristwch yr ydw i’n teimlo bod rhaid i mi gyflwyno fy ymddiswyddiad o fod yn bennaeth y Gronfa Ariannol Ryngwladol,” meddai.
“Rwyf am warchod y sefydliad yr wyf wedi ei wasanaethu gydag anrhydedd ac ymroddiad, ac rwyf am roi fy holl amser ac egni i brofi fy niniweidrwydd.”
Gofyn am fechnïaeth
Mae disgwyl i Dominique Strauss-Kahn wneud ymgais newydd heddiw i gael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Penderfynodd barnwr yn Efrog Newydd ddydd Llun na ddylai gael ei ryddhau ar fechnïaeth rhag ofn iddo ffoi i Ffrainc.
Roedd wedi cael ei arestio ar awyren oedd ar fin hedfan i Ffrainc ym Maes Awyr Kennedy.