Gabrielle Giffords
Bydd doctoriaid yn gosod plât plastig ym mhen y gyngreswraig Gabrielle Giffords heddiw, ar ôl gorfod tynnu darn o’i phenglog ar ôl iddi gael ei saethu yn ei phen dros bedwar mis yn ôl.

Daw’r llawdriniaeth ddeuddydd ar ôl i Gabrielle Giffords deithio i Florida er mwyn ffarwelio â’i gŵr, y gofodwr Mark Kelly, hedfanodd i’r gofod ar fwrdd gwennol ofod Endeavour fore Llun.

Tynnwyd darn mawr o benglog Gabrielle Giffords gan feddygon er mwyn gwneud lle i’r chwyddo yn ei hymennydd wedi iddi gael ei saethu.

Cafodd 12 o bobol eu lladd yn ystod yr ymosodiad gan ddyn arfog yn Tuscon, Arizona, ar 8 Ionawr eleni.

Mae cyngreswraig y Democratiaid wedi bod yn gwisgo helmed wedi ei addurno â fflag talaith Arizona er mwyn amddiffyn ei phen.

“Bydd hyn yn gwella safon ei bywyd am na fydd yn rhai iddi boeni am yr helmed a gwarchod ei phen wrth iddi symud o gwmpas,” meddai Dr Richard Riggs o Ganolfan Feddygol Cedars-Sinai yn Los Angeles.

Bydd y darn plastig yn cael ei osod o dan groen y pen, gan alluogi i wallt i dyfu drosto fel nad yw’n dangos.

Mae’n debyg fod y darn o’r penglog a dynnwyd wedi ei chwalu gan y fwled ac felly nad oedd modd ei roi yn ôl, meddai Dr Rigg.