Goodluck Jonathan
Mae o leiaf 800 o bobol wedi eu lladd yn ystod trais yn dilyn etholiad yn Nigeria, yn ôl mudiad hawliau dynol.
Dechreuodd y trais yng ngogledd y wlad pan ddaeth i’r amlwg na fyddai’r ymgeisydd oedd yn boblogaidd yno yn llwyddo i guro’r arlywydd sy’n boblogaidd yn y de.
Maeddodd Goodluck Jonathan, Cristion o’r de, ei wrthwynebydd Muhammadu Buhari, Mwslim o’r gogledd, yn yr etholiad ym mis Ebrill.
Digwyddodd y gwaethaf o’r trais yn nhalaith Kaduna, ble mae cymuned Gristnogol fawr a chymuned Fwslimaidd yn agos iawn at ei gilydd.
Dywedodd musiad Human Rights Watch eu bod nhw wedi cyfweliad llygaid-dystion oedd wedi goroesi’r trais.
Dyw awdurdodau Nigeria ddim wedi cyhoeddi faint fuodd farw rhag ofn i hynny arwain at ragor o drais.
Ond dywedodd un o asiantaethau’r llywodraeth yno fod 40,000 o bobol yng ngwlad fwyaf poblog Africa wedi gorfod ffoi eu cartrefi o ganlyniad i’r trais.
Roedd sylwebwyr rhyngwladol wedi canmol yr etholiad arlywyddol ym mis Ebrill ond mae’r trais ddaeth yn ei sgil wedi bygwth sefydlogrwydd y wlad yng ngorllewin Africa.
“Roedd yr etholiadau ym mis Ebrill ymysg y tecaf yn hanes Nigeria, ond maen nhw hefyd ymysg y mwyaf gwaedlyd,” meddai Corinne Dufka o Human Rights Watch.