Y Frenhines Elizabeth
Mae heddlu Gweriniaeth Iwerddon wedi dod o hyd i ddyfais ffrwydrol ger Dulyn.

Daw’r darganfyddiad ar ddiwrnod cyntaf ymweliad y Frenhines Elizabeth â’r wlad.

Daethpwyd o hyd i’r bom ar silff storio bagiau ar fws ar gyrion Maynooth, Swydd Kildare.

Cafodd y ddyfais ei ffrwydro yn oriau man y bore gan luoedd arfog Iwerddon.

Cyrhaeddon nhw’r bws am 11.10pm ddoe ac fe gafodd y bom ei “wneud yn saff” am 1.55am. Mae gweddillion y bom wedi ei roi yn nwylo heddlu Iwerddon.

Mae strydoedd rhan o Ddulyn fel y bedd bore ma wrth i’r heddlu baratoi ar gyfer ymweliad y Frenhines, y cyntaf gan Frenin neu Frenhines Brydeinig ers dros 100 mlynedd.

Tad-cu’r Frenhines, George V, oedd y Brenin diweddaraf i ymweld â Gweriniaeth Iwerddon, yn 1911, pan oedd yn rhan  o’r Deyrnas Unedig.

Mae heddlu yn cylchwylio’r strydoedd, ac mae parcio wedi ei wahardd mewn sawl ardal, a rhannau mawr o’r ddinas wedi eu cau. Mae’r ymweliad wedi costio tua €30m (£26.2m) i’r wlad.

Fe fydd y Prif Weinidog, David Cameron, yn ymuno â’r Frenhines yfory a’r Ysgrifennydd Tramor yn teithio gyda nhw drwy gydol y daith.

Dywedodd Taoiseach Gweriniaeth Iwerddon, Enda Kenny, y byddai’r wlad yn “croesawu” y Frenhines ac fe fydd gan aelodau o’r cyhoedd gyfle i’w chyfarfod hi.

Ychwanegodd David Cameron ei fod yn credu y byddai ymweliad y Frenhines yn “ddechrau rhywbeth mwy”.

“Rydyn ni’n datrys y problemau ond rhwng y ddwy wlad yn y gorffennol, ac yn helpu ein gilydd drwy adeg economaidd anodd,” meddai.

“Mae’n gyfle da i bobol Iwerddon a Prydain gofio beth sydd ganddyn nhw yn gyffredin.”