Y Frenhines Elizabeth
Mae canonau dŵr o Ogledd Iwerddon wedi eu symud i Ddulyn cyn ymweliad y Frenhines yn ddiweddarach yn y mis.
Bydd y Frenhines yn cyrraedd Iwerddon ar 17 Mai, y tro cyntaf i frenin neu frenhines Brydeinig ymweld â’r wlad ers iddi sicrhau annibyniaeth.
Mae Llywodraeth Prydain a Gweriniaeth Iwerddon wedi croesawu yr ymweliad gan ddweud ei fod yn symbol fod y berthynas rhwng y ddwy wlad yn gwella.
Ond mae yna bryderon am ddiogelwch y Frenhines a phryderon y bydd gweriniaethwyr terfysgol yn ei thargedu.
Mae Gweinidog Tramor Iwerddon, Eamon Gilmore, wedi dweud y bydd rhaid i ddiogelwch fod yn dynn yn dilyn llofruddiaeth yr heddwas Ronan Kerr.
“Mae’r grwpiau yma wedi bygwth dros yr wythnosau diwethaf,” meddai wrth RTE radio.
“Mae’r llywodraeth yn pryderu am weriniaethwyr terfysgol ac fe fydd diogelwch yn dynn iawn.”
Mae Heddlu Gweriniaeth Iwerddon wedi benthyg dau o ganonau dŵr Heddlu Gogledd Iwerddon er mwyn rheoli’r tyrfaoedd.
“Fe fydd Heddlu Gogledd Iwerddon yn darparu offer ar gyfer An Garda Siochana cyn yr ymweliad brenhinol ar 17-20 Mai,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.