Disgynnodd prisiau tai yng Nghymru ar raddfa gyflymach nag unrhyw ran arall o Brydain yn ystod mis Mawrth.
Disgynnodd prisiau tai Cymru 3.3% yn ystod y mis – maen nhw bellach 7.2% yn is nag oedden nhw flwyddyn yn ôl.
Roedd prisiau tai wedi disgyn ym mhob rhan o Gymru a Lloegr ym mis Mawrth, heblaw am Ogledd Orllewin Lloegr lle y cododd prisiau tai 0.7%.
Mae’r data cyntaf ar gyfer mis Ebrill yn dangos bod prisiau tai ar draws Prydain wedi llithro ymhellach eto.
Collodd y tŷ cyfartalog 0.2% o’i werth yn ystod y mis diwethaf. Mae’r tŷ cyfartalog bellach yn costio £169,000, yn ôl Cymdeithas Adeiladu Nationwide.
Dywedodd Robert Gardner, prif economegydd Nationwide, fod y farchnad yn “statig”, gan arwain at gynnydd neu gwymp fychan bob mis.
Ond dywedodd nad oedd tystiolaeth sicr y byddai’r cwymp mewn prisiau tai yn cyflymu dros y misoedd nesaf, er gwaethaf yr economi bregus.
“Mae’n annhebygol y bydd prisiau tai yn cynyddu yn gyflym,” meddai. “Mae disgwyl y bydd yr adferiad yn araf o’i gymharu gydag eraill.
“Rydyn ni’n disgwyl i brisiau tai aros yr un fath neu gwympo rywfaint yn ystod 2011.”