Fe fydd prif weithredwr Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn gadael ei swydd ar ôl yr ŵyl eleni.

Dywedodd Mervyn Cousins ei fod yn rhoi’r gorau iddi er mwyn canolbwyntio ar ei waith cerddorol.

Ymunodd ag Eisteddfod Llangollen yn 2003 yn Gyfarwyddwr Cerddorol.

Does dim penderfyniad eto ynglŷn â phwy fydd yn ei olynu yn y swydd.

“Mae Eisteddfod Llangollen wedi bod yn agos at fy nghalon ers blynyddoedd,” meddai. “Rydw i’n falch bod gwerthiant tocynnau wedi cynyddu yn ystod fy nghyfnod yma, gan gynnwys cynnydd o 9% y llynedd.

“Ni fydd yr ŵyl eleni yn cael ei effeithio gan fy mhenderfyniad i roi’r gorau iddi. Rydw i’n gwybod y bydda i yn gadael ar ôl eisteddfod wych.

“Rydw i’n lwcus iawn o fod wedi cael gweithio â gŵyl sefydledig, sy’n fyd-enwog, a’r holl bobol wych sy’n rhan ohono.”

Dywedodd Gethin Davies, ysgrifennydd yr eisteddfod, fod Mervyn Cousins wedi “cyflawni pethau gwych”.

“Mae’n gerddor talentog a llwyddodd i wella agwedd cerddorol a chelfyddydol yr eisteddfod.”

Fe fydd yr eisteddfod yn cael ei gynnal ar 4-10 Gorffennaf eleni.