Mae un o dely
Alan Stivell
norion arloesol y 1970au wedi cael croeso cynnes yn ôl i Gymru, ddeugain mlynedd wedi i’w gerddoriaeth drawsnewid y sîn roc Geltaidd.
Roedd Alan Stivell, sy’n hanu o Auvergnat yn Llydaw, yn chwarae yn yr Ŵyl Delynau yng Nghaernarfon – ei berfformiad cyntaf yng Nghymru ers pum mlynedd.
Wrth ei gyflwyno, dywedodd y cerddor a’r bardd Twm Morys mai ef oedd un o’r “telynorion mwyaf syfrdanol a glywais i erioed”.
Yn ei dro, roedd Alan Stivell, a arloesodd gyda cherddoriaeth werin a roc ar y delyn, yn dweud ei fod yn edmygu’r frwydr iaith yng Nghymru.
“Allwn ni byth â dychmygu Llywodraeth Ffrainc yn rhoi sianel i ni,” meddai wrth gylchgrawn Golwg. “Roedd y broblem â diwylliant neu iaith hyd yn oed yn anos yn Ffrainc nag ym Mhrydain.”
Y stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg