George Bush
Mae cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, George Bush, wedi gwrthod gwahoddiad gan Barack Obama i gymryd rhan mewn seremoni ar ‘ground zero’ Efrog Newydd.
Fe fydd yr Arlywydd presennol yn ymweld â’r safle lle y digwyddodd rhan o ymosodiad 9/11 yfory.
Daw’r ymweliad yn dilyn lladd Osama bin Laden, a gynllwyniodd yr ymosodiadau, ym Mhacistan ddydd Sul.
Digwyddodd ymosodiad al Qaida, a laddodd tua 3,000 o bobol, ym misoedd cynnar arlywyddiaeth George Bush yn 2001.
Dywedodd llefarydd ar ran George Bush ei fod yn gwerthfawrogi’r cynnig i gymryd rhan ond ei fod wedi penderfynu aros allan o lygaid y cyhoedd ar ôl rhoi’r gorau i fod yn arlywydd.
Ychwanegodd y llefarydd fod George Bush yn dathlu marwolaeth Osama bin Laden a’i fod yn “fuddugoliaeth bwysig yn y rhyfel yn erbyn terfysgaeth”.