Y Tywysog Andrew
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi dweud y dylid cyfweld ymgeiswyr ar gyfer swydd cennad masnachol y Tywysog Andrew.
Bu’n rhaid i Paul Flynn osgoi crybwyll enw Dug Efrog yn ystod y drafodaeth oherwydd rheolau sy’n gwahardd Aelodau Seneddol rhag beirniadu’r Teulu Brenhinol.
Dywedodd AS Gorllewin Casnewydd fod ei “geg wedi ei rwymo gan reolau hynafol”.
Cafodd ei feirniadu am ei sylwadau gan y Gweinidog Busnes Ed Davey.
“Rydw i’n credu fod amseru’r ddadl hon yn amhriodol iawn, pedwar diwrnod yn unig ar ôl y briodas frenhinol,” meddai.
“Roedd y wlad gyfan wedi dangos ei chefnogaeth i’r Teulu Brenhinol a phob aelod ohono. Rydw i’n falch iawn i gael bob yma yn cefnogi Ei Fawrhydi heno.”
Dywedodd Paul Flynn fod y tywysog wedi ei benodi i’r swydd gan ei fam y Frenhines ar ôl iddi drafod â gweinidogion y Llywodraeth.
Roedd y swydd wedi costio £4 biliwn i’r trethdalwr dros y degawd diwethaf, heb gyfri costau diogelu’r Tywysog, meddai.
“A oes yna broblem â’r swydd ar hyn o bryd?” gofynnodd. “Mae’n sicr yn broblem nad oes yna ragor o gystadleuaeth am y swydd.
“Dyw hi ddim yn swydd agored. Does yna ddim cyfweliadau a’r unig gymhwyster sydd ei angen yw bod yn aelod o deulu penodol. Mae hynny’n destun pryder.”