Barack Obama - Americanwr
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wedi cyhoeddi fersiwn llawn o’i dystysgrif geni wrth geisio ateb amheuon nad oedd wedi cael ei eni yn y wlad.
Pe bai ymgyrchwyr asgell dde’n gallu profi ei fod wedi ei eni y tu allan i’r Unol Daleithiau, fyddai ganddo ddim hawl body n Arlywydd o gwbl.
Yn ddiweddar, mae yna ymgyrch wedi bod i geisio’i bardduo gyda’r dyn busnes Donald Trump, a allai fod yn rhan o’r ras arlywyddol nesaf ar ran y Gweriniaethwyr, wedi dechrau cwestiynu pam fod Barack Obama wedi methu cyhoeddi fersiwn llawn o’r dystysgrif.
Geni yn Hawaii
Ond mae’r ddogfen yn dangos iddo gael ei eni ar ynys Hawaii – un o daleithiau’r Undeb – ar 4 Awst 1961. Mae’r dystysgrif wedi cael ei harwyddo gan ei fam a’r meddyg lleol.
Fe ddywedodd llefarydd y Tŷ Gwyn, Jay Carney, bod yr Arlywydd wedi cymryd y cam yma oherwydd ei fod yn teimlo bod y mater yn tynnu sylw oddi ar wleidyddiaeth y wlad.
Yn ôl cyfarwyddwr cyfathrebu’r Tŷ Gwyn, Dan Pfeiffer, roedd rhaid cyhoeddi’r wybodaeth oherwydd bod y cyfryngau’n holi gwleidyddion bob tro yn ystod cyfweliadau.