Hosni Mubarak
Mae llys yn yr Aifft wedi gorchymyn bod rhaid dileu enw’r cyn-Arlywydd Hosni Mubarak a’i wraig, yr hanner-Cymraes Suzanne Mubarak, o bob sefydliad a gwasanaeth cenedlaethol.

Gorfodwyd Hosni Mubarak i gamu o’r neilltu ym mis Chwefror ar ôl 29 mlynedd mewn grym.

Bydd penderfyniad y llys yn gorfodi cannoedd, os nad miloedd, o orsafoedd trenau, ysgolion, strydoedd, a llyfrgelloedd ar draws y wlad i newid eu henwau.

“Mae wedi dod i’r amlwg bod y llygredd oedd yn bodoli yn ystod cyfnod Mubarak y tu hwnt i ddychymyg pawb,” meddai’r Barnwr Mohammed Hassan Omar.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Atef Abdel-Hameed y byddai’n bwrw ati’n syth i newid enwau rhai o wasanaethau’r adran, gan gynnwys un o orsafoedd trenau mwyaf Cairo.

Mae Hosni Mubarak, 82, wedi ei gadw yn y ddalfa yn Sharm el-Sheikh ar lannau’r Môr Coch.