Afonydd Bangladesh
Mae o leiaf 28 o bobol wedi marw ar ôl i long oedd yn cario tua 100 o deithwyr droi drosodd yn nwyrain Bangladesh.

Suddodd y llong ar ôl taro gweddillion llong arall oedd wedi suddo ychydig ddyddiau ynghynt.

Tynnodd pentrefwyr ac achubwyr 28 corff o Afon Meghna yn Brahmanbaria ac maent yn parhau i chwilio am y gweddill, meddai pennaeth yr heddlu lleol, Jamil Ahmed.

Llwyddodd rhai o’r teithwyr i nofio at y lan ond mae’n amlwg bod yna nifer sydd dal ar goll, meddai.

Digwyddodd y ddamwain tua 50 milltir i’r dwyrain o’r brifddinas Dhaka.

Mae damweiniau llongau yn gyffredin yn Bangladesh, yn bennaf oherwydd gorlwytho a rheolau llac.

Dywedodd un o’r goroeswyr, Din Islam, fod ei wraig a phump o’i berthnasau ar y llong a’i fod yn credu eu bod nhw i gyd wedi marw.

“Rydw i wedi colli pob un. Dim ond dau gorff sydd wedi dod i’r golwg, rydw i’n chwilio am y gweddill,” meddai.

Dywedodd fod y llong wedi suddo yn gyflym iawn a bod y mwyafrif o’r teithwyr yn cysgu pan ddigwyddodd y ddamwain.