Muammar al-Gaddafi
Mae llywodraeth Libya wedi addo y bydd gweithwyr dyngarol yn cael mynediad i orllewin y wlad, yn ôl y Cenhedloedd Unedig.
Bydd y cytundeb yn caniatáu i weithwyr dyngarol sefydlu canolfan yn y brifddinas Tripoli a mynd a dod fel y maen nhw ei eisiau.
Dyw’r cytundeb ddim yn cynnwys mynediad i ddinasoedd a threfi dwyrain y wlad lle mae’r gwrthryfelwyr mewn rheolaeth.
Mae yna bryder fod cannoedd o bobol wedi marw yn ninas Misrata yn y gorllewin, sydd dan reolaeth y gwrthryfelwyr, ar ôl dyddiau o ymosod gan filwyr Muammar Gaddafi.
Ffodd tua 1,000 o bobol o’r ddinas ar long asiantaeth dyngarol y Corff Ymfudo Rhyngwladol.
Mae nhw wedi eu cludo i Benghazi ond yn ôl yr asiantaeth mae yna lawer iawn o bobol yn dal dan warchae yn Misrata.