Saratosa, Florida
Mae ditectifs yn Florida eisiau gwybod pam fod dau Brydeiniwr oedd ar wyliau yno wedi gadael canol dinas Sarasota a theithio i’r ardal beryglus lle y cafodd y ddau eu saethu’n farw.

Daethpwyd o hyd i gyrff James Cooper, 25, a James Kouzaris, 24, yn llawn bwledi yn ardal Newtown y ddinas tua 3am ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Sarasota ei fod yn “anghyffredin iawn” gweld twristiaid yn yr ardal honno o gwbl.

Mae Shawn Tyson, llanc 16 oed sy’n byw ger lle y digwyddodd y saethu, wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio’r ddau.

Roedd eisoes wedi ei arestio ar 7 Ebrill am ymosod â dryll, ar ôl adroddiadau ei fod wedi saethu i mewn i gar, meddai’r heddlu.

Gwyliau

Roedd James Kouzaris, o Northmapton, ar wyliau tair wythnos yn Florida gyda James Cooper a’i deulu, o Warwick.

Roedd y ddau wedi bod ar noson allan yn teithio o dafarn i dafarn yng nghanol Sarasota nos Wener, cyn marw mewn stryd gul un ffordd 20 bloc i ffwrdd ychydig oriau yn ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sarasota eu bod nhw’n “ymchwilio i bob un o’r damcaniaethau” ac yn “cadw meddwl agored”.

Roedden nhw’n credu bod rhywun wedi gwneud ffrindiau â’r Prydeinwyr a chynnig lifft iddyn nhw, neu eu bod nhw wedi dal tacsi.