Mae milwr Taliban arfog mewn gwisg milwr o fyddin Afghanistan wedi ymosod ar ganolfan filwrol yn y wlad heddiw gan ladd o leiaf dau o filwyr cyn iddo gael ei saethu ei hun.
Dyma’r trydydd ymosodiad o’i fath yn yr wythnos ddiwethaf.
Yn ôl y Taliban, roedden nhw wedi cynllunio’r ymosodiad i gyd-fynd ag ymweliad gweinidog amddiffyn Ffrainc. Roedden nhw’n credu ei fod yn y Weinyddiaeth ar y pryd.
Ond, yn ôl swyddogion Ffrainc, roedd Gerard Longuet, y gweinidog yn rhywle arall.
Roedd yr ymosodwr yn gwisgo siaced hunan-laddwr a fethodd â ffrwydro.