Fe fydd llywodraeth Prydain yn helpu 5,000 o bobl i ffoi o ddinas Misrata ac yn darparu cyflenwadau meddygol hanfodol i’r rhai sydd wedi cael eu dal yn y trais yng ngorllewin Libya.

Fe wnaed y cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, Andrew Mitchell, sydd yn Efrog Newydd ar gyfer trafodaethau gyda rhai o sefydliadau’r Cenhedloedd Unedig ynghylch yr argyfwng dyngarol cynyddol yn y wlad.

Mae degau o filoedd o bobl yn gaeth yn Misrata a threfi eraill sydd yn nwylo gwrthryfelwyr yn erbyn yr unben Muammar Gaddafi ar ôl dros fis o ymladd.

“Dw i’n benderfynol y bydd Prydain yn parhau i helpu’r bobl ddiniwed rheini sydd wedi cael eu dal yn y trais parhaus,” meddai.

“Mae miloedd o weithwyr tramor wedi llwyddo i gyrraedd porthladd Misrata mewn perygl dychrynllyd o ymosodiadau, heb ffordd o fynd allan.

“Fe fyddwn ni’n trefnu bod y bobl yma’n gallu ffoi’n ddiogel o’r wlad ac fe fydd hyn yn helpu lleihau’r galw yn Misrata am y cyflenwadau prin o fwyd, dŵr a chyflenwadau meddygol sydd ar gael.

“Fe fyddwn hefyd yn anfon timau meddygol arbenigol i’r ardaloedd sydd wedi cael eu taro waethaf, a allai olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth i lawer o bobl.”