Y Tywysog William a'i ddarpar wraig, Kate Middleton
Mae cyfran sylweddol o weithwyr heb gael gwybod os ydyn nhw’n cael diwrnod o wyliau ai peidio ar ddiwrnod y briodas frenhinol yr wythnos nesaf, yn ôl arolwg sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae hyn er gwaetha’r ffaith fod y llywodraeth wedi cyhoeddi’r dyddiad fel gŵyl y banc.

 Mae’r arolwg o 1,000 o weithwyr gan gwmni recriwtio Badenoch & Clark yn dangos bod hyn yn arbennig o wir yn Llundain, lle bydd y briodas yn cael ei chynnal ar 29 Ebrill, gyda bron i draean heb wybod os ydyn nhw’n gweithio neu beidio. 

“Fe ddylai gweithwyr fod yn ymwybodol nad oes rhaid i gyflogwyr rhoi gŵyl y banc neu wyliau cyhoeddus yn wyliau ychwanegol,” meddai Lynne Hardman o Badenoch & Clark.

 “Ond mae gan gyflogwyr dyletswydd i gyfathrebu’n effeithiol ac yn glir gyda’u gweithwyr – ac mae hyn yn cynnwys penderfyniadau ar wyliau.

“Fe allai gadael gweithwyr i gymryd mantais o ŵyl y banc fod yn ffordd wych o gryfhau ysbryd y gweithle.”

‘Yn erbyn cael ein gorfodi’

Yn y cyfamser,  fe fydd y Byd ar Bedwar heno’n dangos pobl sydd eisoes wedi penderfynu anwybyddu’r briodas frenhinol yr wythnos nesaf.

Yn eu plith fe fydd Emyr Aeron o Langefni, a fydd yn mynd i Iwerddon am y diwrnod.

“Dwi’n edrych ‘mlaen at gael dengyd o Gymru’r diwrnod hwnnw,” meddai. “Dwi’n gobeithio mynd gyda’r teulu i Iwerddon, cael peint neu ddau o’r sdwff du a chael mynd digon pell i ffwrdd o’r holl ffws a’r lol.”

 Fe fyddai’n well ganddo ef gael gwyl y banc ar ddydd gwyl Ddewi, meddai.

“Dwi’n erbyn bod ni’n cael ein gorfodi i gymryd diwrnod i ffwrdd am bod nhw’n priodi.”

Bwriad Sion Gwilym o Lansadwrn yw gweithio fel arfer ar y diwrnod.

“Brenhiniaeth Lloegr ydy hi, dydi o ddim yn perthyn i Gymru wir – ’mond pan mae’n siwtio nhw,” meddai.

Fe fydd y Byd ar Bedwar ymlaen heno am 9.30.