Hosni Mubarak, cyn-arlywydd yr Aifft
Mae cyn-brif weinidog yr Aifft a dau gyn-aelod cabinet wedi cael eu cyhuddo o lygredd wrth i awdurdodau’r wlad ymchwilio i weithgareddau aelodau o lywodraeth Hosni Mubarak.
Mae twrnai cyffredinol arian cyhoeddus yr Aifft wedi cyhuddo’r cyn-brif weinidog Ahmed Nazif, y cyn-weinidog cyllid Yousef Boutros Ghali a’r cyn-weinidog cartref Habib el-Adly o wastraffu mwy na £9.2 miliwn mewn arian cyhoeddus ac ymelwa personol.
Cafodd Hosni Mubarak ei orfodi i ymddiswyddo ar 11 Chwefror yn sgil protestiadau mawr ar ôl 30 mlynedd mewn grym.
Aed ag ef a’i feibion i’r ddalfa ddydd Mercher diwethaf am 15 diwrnod wrth i ymchwiliadau gael eu cynnal i honiadau o lygredd ac i farwolaethau cannoedd o brostestwyr yn ystod y 18 diwrnod o brotestiadau.