Yn ôl y mudiad Human Rights Watch, mae'r Cyrnol Gaddafi wedi bod yn defnyddio bomiau clwstwr yn ninas Misrati
Fe fydd trafodaethau brys rhwng Prydain a’r Cenhedloedd Unedig yfory i chwilio am atebion i’r argyfwng dyngarol sy’n cyflym waethygu yn Libya.
Mae’r Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, Andrew Mitchell, yn hedfan i Efrog Newydd i gyfarfod cynrychiolwyr o sefydliadau elusennol.
Mae pryder penodol ynghylch yn angen i gael cyflenwadau i bobl gyffredin sydd wedi cael eu dal yn y gwarchae yn Misrata, lle mae lluoedd y Cyrnol Muammar Gaddafi wedi bod yn ymosod ar y ddinas sydd yn nwylo’r gwrthryfelwyr.
Mae rhai pobl sydd wedi eu hanafu’n ddrwg heb fod modd mynd â nhw am driniaeth feddygol, mae ysbytai’n brin o drydan a dŵr, ac mae pobl wedi cael eu dal yn eu cartrefi am wythnosau heb fawr ddim bwyd.
Afiechydon
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn bryderus y gallai yfed dŵr heb gael ei drin yn syth o ffynhonnau arwain at afiechydon.
Mae Prydain eisoes wedi anfon cymorth gan gynnwys cysgodfannau argyfwng, cyflenwadau meddygol, bwyd a digon o becynnau bydwragedd ar gyfer 200 o enedigaethau.
Fodd bynnag, mae ar Andrew Mitchell eisiau gweld mwy’n cael ei wneud i sicrhau bod y cymorth yn cyrraedd at y bobl.
“Mae’r sefyllfa ddyngarol yn Misrata o bryder mawr,” meddai. “Fe ddylai’r gymuned ryngwladol fod yn barod i ymateb, a dyna pam y bydda i’n cyfarfod gyda’r Cenhedloedd Unedig i sicrhau bod y gefnogaeth iawn yn ei lle.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau i gael cymorth, fel bwyd, dŵr neu gyflenwadau meddygol, trwodd i bobl. Rhaid i asiantaethau dyngarol gael mynediad rhydd a dilyffethair i Misrata ac ardaloedd eraill sydd wedi cael eu heffeithio gan ymladd.”