Mae timau arbenigol wrthi’n dal i chwilio am wraig 72 oed o ardal Bae Colwyn a aeth ar goll yn Nyffryn Conwy ddoe.
Mae’r heddlu’n gofyn yn benodol i bobl i ardal Dolgarrog i gadw llygad yn agored am unrhyw un sy’n cyfateb i’r disgrifiad ohoni.
Mae’r heddlu’n bryderus nad oes neb wedi gweld Pat Howell o Fochdre, ger Bae Colwyn, ers 10 o’r gloch fore Gwener.
Cafodd plismyn hyd i’w char, Vauxhall Vectra glas, model 2003, wedi ei barcio ar y B5106 yn Nolgarrog. Fe gafodd Pat Howell ei gweld ddiwethaf yn cerdded oddi wrth y car yn cludo bag a ffon gerdded.
Caiff Pat Howell ei disgrifio fel menyw maint 12-14, a chredir ei bod hi’n gwisgo trowsus du a sweter du hir gyda gwddw uchel a chot lliw golau i lawr at ei gliniau. Roedd hi’n cludo bag llaw brown mewn bag hessian Asda.
“Mae gennym dimau arbenigol yn chwilio amdani, on gofynnwn hefyd ar i unrhyw un sydd allan yn cerdded yn yr ardal i chwilio am rywun sy’n cyfateb i’r disgrifiad o Mrs Howell,” meddai’r Arolgydd Simon Barrasford.
“Fe hoffen ni hefyd i unrhyw un a welodd gar Mrs Howell yn y lleoliad yma rhwng 10am a 6.45pm ddydd Gwener i gysylltu â ni i helpu’n hymchwiliad,” ychwanegodd.
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r Gogledd ar 101 neu ar 0845 607 1001.