Arlywydd Assad Syria (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae ymgyrchwyr yn erbyn llywodraeth Syria’n galw am brotestiadau ledled y wlad heddiw i nodi Diwrnod Annibyniaeth.

Mae hyn er gwaethaf addewidion gan yr Arlywydd Bashar Assad ddoe – ar ôl mwy na mis o wrthdystiadau cynyddol – i roi’r gorau i 50 mlynedd o waharddiadau llym ar ryddid ac i weithredu diwygiadau a fydd yn caniatáu ffurfio pleidiau gwleidyddol.

Mae’r prif fudiad sy’n ymgyrchu dros ddemocratiaeth yn Syria, Datganiad Damascus, yn pwyso ar Syriaid i gynnal protestiadau heddychlon ym mhob un o ddinasoedd y wlad, ac mewn gwledydd tramor er mwyn “cryfhau gwrthryfel poblogaidd Syria a sicrhau ei barhad”.

Ar eu gwefan, mae Datganiad Damascus yn cyhuddo cyfundrefn Assad o ladd ac anafu cannoedd o Syriaid sydd wedi bod yn galw am eu hawliau sylfaenol yn ystod y mis diwethaf.

“Y gyfundrefn ei hun sy’n gwbl gyfrifol am waed merthyron ac am bopeth arall a fydd yn digwydd nesaf yn y wlad,” meddai’r datganiad.

Mae’r Arlywydd Assad wedi rhybuddio na fydd unrhyw esgus dros gynnal protestiadau unwaith y bydd Syria wedi codi’r gwaharddiadau, ac na fydd y llywodraeth yn goddef unrhyw ymgais i’w tanseilio.