Y Sarjant Stephen Young o Donypandy (Walking with the Wounded/PA)
Mae milwr o Gymru a gafodd ei anafu’n ddifrifol yn Afghanistan wedi llwyddo i gwblhau taith arwrol i Begwn y Gogledd.

Roedd yn rhan o griw o filwyr clwyfedig a gyrhaeddodd y Pegwn neithiwr – dri diwrnod yn gynt na’r disgwyl – ar ôl sgïo tua 190 milltir mewn 13 diwrnod ar draws ia’r Arctig.

Nod y dynion, sydd wedi torri’r record fel y tîm cyntaf o’u math i sgïo i Begwn y Gogledd, yw codi £2 filiwn at yr elusen Walking with the Wounded.

Roedd y Sergeant Stephen Young, 28, o Tonypandy yn y Rhondda, wedi torri ei gefn ar ôl i’w gerbyd gael ei chwythu i fynu gan ddyfais ffrwydrol yn Afghanistan.

Gydag ef roedd tri o’i gyd-filwyr, ill tri wedi colli braich neu goes yn Afghanistan, dau arweinydd ac un tywysydd lleol.

Un o’r rhai cyntaf i’w llongyfarch oedd y Tywysog Harry, a oedd wedi treulio pedwar diwrnod yn cerdded gyda’r dynion yn gynharach y mis.

“Mae ysbryd a phenderfyniad y dynion yma heb ei ail, ac maen nhw’n gosod esiampl gwych i eraill,” meddai.