Y Pab Benedict XVI
Mae’r Pab wedi bod yn annerch miloedd o bererinion a thwristiaid ar gychwyn dathliadau’r Wythnos Santaidd yn Rhufain.

Yn ei bregeth yn Offeren Sul y Blodau, pwysleisiodd y Pab Bened XVI yr angen am wyleidd-dra ymysg ei bobl.

Mae’r ddynoliaeth wedi llwyddo i gyflawni cymaint o bethau: gallwn hedfan! Gallwn weld, clywed a siarad â’n gilydd o bellafedd daear,” meddai’r Pab.

“Ac eto mae grym y disgyrchiant sy’n ein tynnu i lawr yn bwerus.

“Gyda’r cynnydd yn ein galluoedd mae cynnydd nid yn unig o ddaioni. Mae ein posibiliadau o ddrygioni wedi cynyddu ac yn ymddangos fel stormydd bygythiol uwchben hanes.”

Wrth gyfeirio at drychinebau naturiol diweddar a oedd allan o reolaeth dyn, meddai’r Pab:

“Mae’n cyfyngiadau ni hefyd wedi parhau.”

Roedd y Pab Bened, a oedd yn cael ei benblwydd yn 84 ddoe, yn dechrau ar wythnos brysur o ymddangosiadau cyhoeddus gan gynnwys gorymdaith Ffordd y Groes o’r Colosseum ddydd Gwener ac Offeren Sul y Pasg wythnos i heddiw.

Mae disgwyl y bydd torfeydd mwy byth yn Rhufain yr wythnos ganlynol ar 1 Mai, pryd y bydd Benedict yn santeiddio’r ragflaenydd John Paul II yn Sgwâr San Pedr.