Cyrnol Gaddafi
Rhaid gwneud mwy i sicrhau ymadawiad y Cyrnol Gaddafi, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol America, Hilary Clinton, wrth annerch cyfarfod o weinidogion tramor Nato yn Berlin.

Mae o leiaf 13 yn rhagor o bobl wedi cael eu lladd heddiw wrth i luoedd Gaddafi fomio dinas yng ngorllewin Libya sydd yn nwylo’r gwrthryfelwyr.

Ar ôl yr ymosodiadau, mae lluoedd Gaddafi wedi ennill rheolaeth dros rannau o ddinas Misrata, a’r porthladd yw unig gysylltiad y ddinas â’r byd tu allan bellach, sy’n ei gwneud hi’n anodd iawn dosbarthu cymorth.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, wedi bod yn cadeirio cyfarfod o sefydliadau rhanbarthol a rhyngwladol ar Libya, sydd wedi gosod tri tharged: cyrraedd a gweithredu cadoediad, dosbarthu cymorth dyngarol a dechrau deialog ar ddyfodol Libya.

“Dydi bomio’ch pobl eich hun ddim yn dderbyniol,” meddai yn y cyfarfod ym mhencadlys y Gynghrair Arabaidd yn Cairo, wrth gyfeirio at yr hyn y mae lluoedd Gaddafi wedi ei wneud i wrthryfelwyr yn erbyn y llywodraeth. “Mae hyn yn drosedd yn erbyn hawliau dynol.”

Cyfarfod Nato

Yn y cyfarfod yn Berlin, roedd gwledydd Nato yn gytûn ar y nod o ddisodli Gaddafi, ond mae anghytundeb ynghylch ffordd i sicrhau hyn.

Dywed Hilary Clinton fod yn rhaid i’r byd gynyddu ei gefnogaeth i wrthwynebwyr Gaddafi yn Libya, ac mae Ffrainc yn pwyso ar wledydd eraill i “weithredu’n gadarnach, yn fwy effeithlon ac yn gyflymach”.

Apeliodd Hilary Clinton am undod:

“Wrth i’n hymgyrch barhau, mae cynnal ein penderfyniad a’n hundod yn dod yn fwyfwy pwysig,” meddai. “Mae Gaddafi yn profi ein penderfyniad.

“Mae aelodau Nato yn rhannu’r un nod, sef gweld diwedd ar gyfundrefn Gaddafi yn Libya. Rhaid inni hefyd ddwysáu ein pwysau gwleidyddol, diplomyddol ac economaidd i ynysu Gaddafi a sicrhau ei ymadawiad.”