Mae perchennog tafarn o Fanceinion wedi ei gael yn euog o gynllwynio i smyglo gwerth £3.5 miliwn o cocên i Brydain.

Cafodd 14kg o’r cyffur ei smyglo i faes awyr Mona ger Llangefni o Le Touquet yng ngogledd Ffrainc ym mis Gorffennaf 2009 mewn awyren breifat o eiddo David Watson, 54 oed, o Prestwich, Manceinion.

Cafodd Watson ei euogfarnu heddiw yn dilyn saith wythnos o achos yn Llys y Goron Lerpwl.

Fodd bynnag, cafwyd tri o’i gyd-ddiffynwyr, gan gynnwys David Lloyd, dyn 65 oed o Sir Fôn, yn ddieuog o droseddau cysylltiedig.

Dywedodd yr erlyniad fod Watson yn America pan ddigwyddodd y smyglo, ond mai “ef oedd yn rheoli’r hyn oedd yn digwydd”.

Pan gyrhaeddodd ei awyren faes awyr Mona o Ffrainc, cafodd ei chwilio gan yr heddlu, a gafodd hyd i’r cocên.

Mae disgwyl y bydd dyddiad yn cael ei bennu yfory ar gyfer dedfrydu Watson.