Mae cannoedd o alarwyr wedi bod yn talu’r deyrnged olaf i filwr o Sir Benfro a gafodd ei daro i lawr a’i ladd gan dacsi yn Llanelli bron i bythnefnos yn ôl.

Roedd yr Is-Gorpral Jonathan Gouldsmith, 24, o Hwlffordd, newydd ddod yn ôl i Gymru ar ôl chwe mis o ymladd y Taliban yn Afghanistan.

Mae’r heddlu’n dal i ymchwilio i’w farwolaeth.

Gyda chwech o’i gyd-aelodau o’r Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol yn cludo’r arch, roedd dros 400 o ffrindiau a theulu iddo yn yr angladd milwrol yng nghadeirlan Tŷddewi heddiw. Fe fu gwasanaeth preifat yn Amlosgfa Arberth wedyn.