Y Gwalch
Mae pâr o weilch wedi cyrraedd Gwarchodfa Natur Cors Dyfi yn Nerwenlas, ger Machynlleth, yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

A gobaith pobl leol yw y bydd cywion yn cael eu magu yn yr ardal am y tro cyntaf ers dros 400 mlynedd.

Mae pâr o weilch wedi nythu yno dros y ddau haf ddiwethaf, ond ddim wedi dodwy.

“Os byddan nhw’n bridio, dyma fydd y tro cyntaf inni gael pâr yn bridio ar afon Dyfi ers dros 400 mlynedd,” meddai rheolwr prosiect Gweilch Dyfi, Emyr Evans.

Mae cuddfan a sgrin plasma o’r gweilch ac o adar eraill i’w gweld yn y warchodfa rhwng 10 a 6 bob dydd trwy’r haf.