Mae cyn-bartneriaid Cymru’n Un wedi bod yng ngyddfau’i gilydd yn dirmygu maniffestos y naill a’r llall heddiw.
Wrth i Carwyn Jones ddisgrifio maniffesto Llafur fel yr un “mwyaf cynhwysfawr a radical yn hanes y Cynulliad”, dywedodd Plaid Cymru nad oedd ynddo ddim syniadau nac uchelgais.
Ar yr un pryd, mae Carwyn Jones yn dweud bod maniffesto Plaid Cymru’n llawn o “addewidion heb gael eu costio”.
Fe ddywedodd hefyd fel ymrwymiad Plaid Cymru i system gyfiawnder droseddol i Gymru’n afrealistig, gan ddweud y byddai’n costio degau o filynau o bunnoedd.
Ac wrth ddirmygu Plaid Cymru’n priodoli dyfyniad ar gam i Dylan Thomas, sy’n dweud bod uchelgais yn allweddol, dywedodd Carwyn Jones fod cywirdeb yn allweddol yn ogystal.
Wrth daro’n ôl, dywedodd Nerys Evans, cyfarwyddwr polisi Plaid Cymru:
“Mae maniffesto Llafur yn ymgais dros 109 o dudalennau i gyfiawnhau eu record o fethiant – gyda phrinder amlwg o syniadau am sut i wella economi, addysg a gwasanaeth iechyd Cymru.
“Mae diffyg syniadau Llafur a’u diffyg uchelgais i Gymru yn frawychus. Lle mae’r syniadau mawr i symud ein heconomi ymlaen? Lle mae’r syniadau mawr i ymdrin â’r problemau yn ein system ysgolion? Lle mae’r syniadau mawr i ymdrin â’r dirywiad yn ein gwasanaethau iechyd?
“Mae’n ymddengos bod unrhyw syniad gwerth ei halen wedi dod o faniffesto Plaid Cymru.
“Allwn ni ddim fforddio pum mlynedd arall o fethiant Llafur”.