Hosni Mubarak, cyn-arlywydd yr Aifft
Fe fydd cyn-arlywydd yr Aifft yn cael ei gadw yn y ddalfa am bymtheng diwrnod, meddai erlynydd cyffredinol y wlad heddiw – ar ôl cyhuddiadau o lygredd a cham-ddefnyddio awdurdod.

Roedd datganiad ar dudalen Facebook yr erlynydd yn cyhoeddi bod Hosni Mubarak yn cael ei ddal gan awdurdodau, yn ogystal â’i feibion.

Fe sefydlwyd y dudalen i estyn allan i deuluoedd y rhai gafodd ei lladd a’u hanafu yn y 18 diwrnod o brotestiadau a ddisodlodd Mubarak yng nghanol mis Chwefror.

Yn ôl y datganiad, mae ymchwiliad yr awdurdodau yn archwilio’r gorchmynion i saethu protestwyr yn ogystal ag unrhyw gam-drin awdurdod gan yr arlywydd am enillion personol.

Yn gynharach heddiw, fe wnaeth Mohammed el-Khatib, pennaeth diogelwch De Sinai ddweud wrth dorf y tu allan i Sharm El-Sheikh fod meibion yr arlywydd wedi’u dal – mewn cysylltiad ag ymchwiliad i mewn i’w rôl nhw yn y trais yn erbyn protestwyr.

Mae awdurdodau’n credu bod eu tad 82 blwydd oed, sydd wedi’i gadw’n  gaeth yn ei gartref yn Sharm El-Sheikh ers y ddau fis diwethaf – yn paratoi ei fab ieuengaf, Gamal i’w olynu. Fe gafodd y meibion eu holi yn swyddfa’r erlynydd yn El-Tor ddoe.

Wrth i’r Heddlu fynd â Gamal Mubarak a’i frawd Alaa sy’n ddyn busnes i ffwrdd – roedd y dorf yn taflu poteli dŵr, cerrig a fflip-fflops ar y cerbyd – arwydd o ddiffyg parch yn y byd Arabaidd.

Ddoe, fe aeth Hosni Mubarak i’r ysbyty gyda phroblemau i’w galon. Roedd dwsinau o brotestwyr wedi picedu’r ysbyty ac yn cario arwyddion yn lladd ar yr arlywydd – arwyddion fel “Dyma’r Bwtsier”.