Danny Alexander
Fe fydd Llywodraeth Prydain yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i roi rhagor o gyfrifoldeb ariannol i Gymru.
Dyna neges Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, wrth ddod i Gymru ar gyfer ymgyrch etholiad y Democratiaid Rhyddfrydol.
Fe addawodd y byddai’r Llywodraeth yn cynnal proses debyg i broses Calman yn yr Alban sydd wedi awgrymu cynnydd sylweddol yn hawl Senedd Holyrood i godi trethi.
Un awgrym newydd oedd rhoi’r hawl i Lywodraeth Cymru amrywio’r dreth stamp – treth sy’n cael ei chodi wrth brynu a gwerthu tai a thir.
“Ar ôl blynyddoedd o reolaeth gaeth y blynyddoedd Llafur, mae gyda ni lywodraeth yn San Steffan bellach sy’n edrych yn fwriadol am gyfleoedd i ddatganoli mwy o rymoedd lle mae hynny’n bosib,” meddai Danny Alexander.
“Bydd hyn yn anelu at gynyddu annibyniaeth gyllidol Llywodraeth Cymru i roi mwy o gyfle i greu’r amgylchedd iawn ar gyfer twf.”