Kirsty Williams - 'agor Cymru i fusnes'
Fe fydd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n teithio i Aberaeron heddiw i lansio maniffesto’r blaid ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad.
Fe fydd Kirsty Williams yn cyhuddo Llywodraeth y Glymblaid o wneud pethau’n anodd i fusnesau yng Nghymru.
“Maen nhw’n euog o ychwanegu haenau o gymhlethdod ychwanegol ar gwmnïau yng Nghymru,” meddai. “Rhaid i’r arwydd yna – ‘Ar Gau i Fusnes’ – ddod i lawr.”
Buddsoddi trwy fenthyg
Mae argymhellion y blaid yn cynnwys addewid i dorri rheol am bob rheol newydd sy’n cael ei chyflwyno ym maes busnes ac am roi’r hawl i gynghorau lleol fuddsoddi trwy fenthyg arian ar sail trethi busnes y dyfodol.
“Mae dinasoedd yn Lloegr a’r Alban yn gallu buddsoddi yn eu hardaloedd … mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru’n cymryd camre i sicrhau nad yw trefi Cymru’n cael eu gadael ar ôl.
“Dyma rymoedd sydd gan Gymru eisoes. Mae arnon ni angen llywodraeth sy’n defnyddio’r grymoedd hynny.”
Addewidion
Ymhlith argymhellion eraill, mae:
- Addewid i roi £2,000 o arian hyfforddi i gwmnïau sy’n cyflogi pobol ifanc ddi-waith.
- Arian ychwanegol i ysgolion trwy’r 80,000 o ddisgyblion sydd mewn mwya’ o angen.
- Gwella effeithiolrwydd ynni mewn 12,000 o dai.
- Torri amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd trwy dorri gwastraff.
- Rhaglen Waith a Thwf.
Ceredigion yw prif sedd darged y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ond mae’r unig bôl piniwn lleol wedi dangos eu bod yn colli tir i Blaid Cymru wrth i Lafur fynd â llawer o’u cefnogwyr.