Alphen aan den Rijn
Mae eglwysi yn yr Iseldiroedd yn cynnal gwasanaethau heddiw er mwyn cofio chwech o bobol gafodd eu ladd gan saethwr mewn canolfan siopa ddoe.

Mae ymchwilwyr yn ceisio penderfynu beth oedd y tu ôl i’r ymosodiadau a sut y llwyddodd y dyn i gael gafael ar yr arfau.

Ymosododd y saethwr, Tristan van der Vlis, 24 oed, ar siopwyr yng nghanolfan siopa Ridderhof yn nhref Alphen aan den Rijn ddoe.

Lladdodd chwech o bobol ac anafu 15 arall, gan gynnwys plentyn, cyn ei saethu ei hun yn ei ben.

Gadawodd un nodyn yn dweud ei fod am ei ladd ei hun, ac yn nodyn bygythiol, ond doedd yr un ohonyn nhw’n awgrymu pam ei fod wedi ymosod ar y siopwyr.