Canol Amsterdam
Mae mewnfudwr o Iran rhoddodd ei hun ar dân yng nghanol Amsterdam wedi marw o ganlyniad i’w anafiadau, meddai’r heddlu.
Dywedodd yr awdurdodau fod cais y dyn 36 oed i gael byw yn yr Iseldiroedd wedi ei wrthod cyn iddo dywallt petrol dros ei ben a’i ladd ei hun.
Ymddangosodd lluniau o’r llosgi ar y we munudau yn unig ar ôl y weithred o flaen y Gofeb Genedlaethol yn Sgwâr Dam ddydd Mercher.
Roedd y lluniau yn dangos y dioddefwr ar ei gefn, yn wenfflam, wrth i bobol geisio diffodd y fflamau â’u cotiau.
Aethpwyd a’r dioddefwr i ganolfan llosgiadau ond ni ddaeth ato’i hun.
Mae’r Iseldiroedd wedi cynyddu’r cyfyngiadau ar fewnfudwyr dros y degawd diwethaf wrth i deimladau gwrth-Fwslemaidd dyfu yno.