Muammar al-Gaddafi (Llun gan Stefan Rousseau/PA)
Uganda yw’r wlad gyntaf i gynnig lloches i arweinydd Libya, Muammar Gaddafi, pe bai’n penderfynu ffoi o Libya.
Dywedodd yr Arlywydd Yoweri Museveni mai polisi’r wlad oedd caniatáu i unrhyw ymofynnwr noddfa ymgartrefu yn y wlad.
Roedd nifer o bobol Ugnada wedi gorfod mofyn lloches mewn gwledydd eraill yn ystod teyrnasiad yr unben, Idi Amin, meddai.
Mae Yoweri Museveni, gafodd ei ail-ethol ym mis Chwefror, wedi bod mewn grym yn Uganda ers 25 mlynedd.
Daw’r cynnig wrth i fyddin Gaddafi a’r gwrthryfelwyr wrthdaro ym mhorthladd olew allweddol Ras Lanouf heddiw.
Yn ôl adroddiadau cafodd y gwrthryfelwyr y gwaethaf ohoni ar ôl cyfnod o ymosod didrugaredd gan luoedd Muammar Gaddafi.
Daeth y gwrthryfelwyr o fewn 60 milltir i ddinas Sirte, lle y cafodd Gaddafi ei fagu, ddeuddydd yn ôl ond ers hynny maen nhw wedi mynd am yn ôl wrth i fyddin Gaddafi ennill tir.