Dechrau'r trafferthion yn Fukushima Dai-ichi
Mae plwtoniwm ymbelydrol yn gollwng o’r orsaf niwclear yn Japan ar ôl iddi gael ei difrodi yn y daeargryn a’r tswnami fwy na phythefnos yn ôl.
Mae arbenigwyr wedi darganfod lefelau bychain o’r metel y tu allan i orsaf Fukushima Dai-ichi, meddai’r perchnogion Cwmni Ynni Trydan Tokyo.
Mae penaethiaid diogelwch yn dweud nad yw’r lefelau hynny’n beryglus i bobol ond bod y darganfyddiad yn cadarnhau’r ofn bod dŵr ymbelydrol yn gollwng o’r orsaf.
“Mae’n sefyllfa ddifrifol iawn,” meddai Prif Ysgrifennydd Cabinet Japan, Yukio Edano. “R’yn ni’n gwneud ein gorau glas i leihau’r niwed.”
Ers y tswqnami ar 11 Mawrth, mae tri o chwech adweithydd yr atomfa wedi toddi’n rhannol ac mae criwiau diogelwch wedi bod yn ceisio atal ymbelydredd rhag gollwng.
Eisoes, mae ymbelydred wedi’i ddarganfod mewn llaeth a llysiau a hyd yn oed mewn dŵr tap yn Tokyo ac mae rhai gwledydd eraill wedi rhoi stop ar fewnforio bwyd o Japan.
Ddoe, fe gadarnhaodd y perchnogion yr atomfa fod dŵr gyda lefelau uchel o ïodin ymbelydrol wedi ei gael tua milltir i’r gogledd o’r atomfa.