Angela Merkel - ei phlaid yn colli tir
Mae’r trafferthion niwclear yn Japan wedi arwain at danchwa wleidyddol yn yr Almaen, gyda dyrnod galed i blaid y Canghellor, Angela Merkel.
Mae’n ymddangos yn sicr y bydd y Blaid Werdd yn rhan o lywodraeth glymblaid yn nhalaith bwysig Baden Wurttemberg sydd wedi ei rheoli ers degawdau y Democratiaid Cristnogol.
Mae eu harweinydd nhw – plaid y Canghellor – wedi cydnabod ei fod wedi colli gan ddweud bod pleidlais y blaid wedi chwalu oherwydd y trafferthion yn atomfa Fukushima Dai-ichi yn Japan.
Yn ôl pob plaid, roedd yr etholiad wedi troi’n fath o refferendwm ar ynni niwclear, gyda’r Democratiaid Cristnogol yn gefnogwyr cry’ i’r diwydiant.
Dyblu a threblu pleidlais
Mae’n ymddangos y bydd y Gwyrddion a’r Democratiaid Cymdeithasol, plaid i’r chwith o’r canol, yn cael 71 o seddi – pedair yn fwy na’r Democratiaid Cristnogol a’u partneriaid nhw.
Fe gafodd y Gwyrddion 24.2% o’r bleidlais gan ddyblu maint eu pleidlais ac, yn ôl sylwebyddion, fe fydd eu buddugoliaeth yn ei gwneud hi’n anoddach i Angela Merkel ar lefel genedlaethol hefyd.
Mae’n ymddangos hefyd mai’r Blaid Werdd fydd yn dewis Llywodraethwr ar gyfer y dalaith, y drydedd fwya’ yn yr Almaen. Mae’n cynnwys tua 10.7 miliwn o bobol a dinasoedd mawr fel Stuttgart a Heidelberg.
Er bod rhai elfennau lleol hefyd, fe gafodd y Gwyrddion lwyddiant mawr yn nhalaith y Rhein a’r Palatinate hefyd, gan dreblu eu pleidlais ac ennill yr hawl i le mewn llywodraeth glymblaid yno hefyd.