Mae ymbelydredd mewn dŵr un adweithydd yn yr atomfa sydd wedi ei difrodi yn Japan dros 10 miliwn gwaith uwch na’r hyn y dylai fod.

Drwy fod gweithwyr yn gorfod cadw draw, mae’n golygu fod gohirio pellach yn y gwaith i geisio dod ag atomfa Fukushima o dan reolaeth.

Yn ogystal, mae’r awyr mewn adweithwydd arall bedair gwaith y lefel sy’n cael ei ystyried yn ddiogel gan y llywodraeth.

Fe ddaeth y newydd am y naid brawychus mewn ymbelydredd wrth i’r cwmni cynhyrchu trydan ymdrechu i bwmpio’r dŵr llygredig o bedwar adweithydd sydd wedi gorboethi yn yr atomfa sydd 140 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Tokyo. Roedd y darlleniad mor uchel fel y bu’n rhaid i’r gweithiwr a oedd yn mesur y lefelau ffoi cyn cymryd ail ddarlleniad.

Cafodd aromfa Fukushima ei difrodi gan y tsunami a ddaeth yn sgil y daeargryn anferthol gerllaw arfordir gogledd-ddwyreiniol Japan ar Fawrth 11, ac mae’r argyfwng niwclear wedi ychwanegu at drychineb sydd wedi lladd mwy na 10,000 o bobl a gadael cannoedd o filoedd yn ddigartref.

Mae nifer swyddogol y meirw’n sefyll ar 10,489 heddiw, gyda mwy na 16,620 o bobl yn dal ar goll. Mae disgwyl i nifer terfynol y meirw godi dros 18,000.