Y Prif Weinidog Stephen Harper
Mae llywodraeth geidwadol Canada wedi chwalu ar ôl pleidlais o ddiffyg hyder gan y gwrthbleidiau.
Daeth y Rhyddfrydwyr, yr NDP a Bloc Québécois at ei gilydd brynhawn dydd Gwener gan ddweud nad oedd ganddyn nhw bellach hyder yn y llywodraeth.
Mae’r pleidiau rheini yn y mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin, tra bod y Prif Weinidog Stephen Harper yn arwain llywodraeth leiafrifol.
Mae disgwyl y bydd Stephen Harper yn galw etholiad ddydd Sadwrn, ar ôl pum mlynedd o lywodraeth Geidwadol.
Fe fydd hefyd yn mynd i weld Llywodraethwr Canada, David Johnston, ddydd Sadwrn gan ofyn iddo ddod a thymor y Senedd i ben yn swyddogol.
Mae disgwyl i’r ymgyrch etholiadol ddechrau yn syth wedyn.
Dyma’r pumed gwaith yn hanes Canada y mae’r gwrthbleidiau wedi chwalu llywodraeth â phleidlais o ddiffyg hyder.
Daw’r bleidlais ar ôl i un o bwyllgorau Tŷ’r Cyffredin gyhoeddi adroddiad oedd yn dweud bod y llywodraeth wedi dangos dirmyg tuag at y Senedd.
Yn ôl yr adroddiad a gyhoeddwyd ddechrau’r wythnos roedd y llywodraeth wedi bod yn cadw gwybodaeth yn ôl ynglŷn â chost jetiau F-35, diwygiadau i’r system cyfiawnder, a’r gyfradd dreth.