Taflegryn Tomahawk
Fe fu awyrennau o  wledydd Prydain yn ymosod eto ar dargedau o fewn Libya, wrth i’r Unol Daleithiau hawlio bod y cyrch yn erbyn y Cyrnol Gaddafi’n llwyddiant hyd yn hyn.

Fe ddefnyddion nhw awyrennau bomio trwm i ymosod ar amddiffynfeydd Libya ac maen nhw’n dweud bod y rhan fwya’ o allu’r Cyrnol i saethu at awyrennau wedi cael ei chwalu.

Yn ôl yr Unol Daleithiau, mae’r ymosodiadau hefyd wedi atal lluoedd Gaddafi rhag nesu at ddinas Benghazi ac maen nhw achosi dryswch ymhlith y milwyr.

Roedd awyrennau Tornado’r Llu Awyr hefyd yn rhan o’r ail noson o ymosodiadau, er eu bod wedi tynnu’n ôl rhag taro un targed oherwydd bod pobol gyffredin yn y cyffiniau.

Fe gadarnhaodd llefarydd fod taflegrau Tomahawk hefyd wedi eu tanio o long danfor Brydeinig.

Taro adeiladau Gaddafi

Roedd yna adroddiadau bod rhai o adeiladau’r Cyrnol Gaddafi ei hun wedi cael eu taro er nad yw’r Arlywydd yn darged swyddogol.

Fe ddywedodd Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, Robert Gates, eu bod nhw’n awyddus i ildio arweinyddiaeth y cyrch yn fuan – naill ai i wledydd Prydain, neu Ffrainc neu gynghrair NATO.

Ac mae’n ymddangos bod rhywfaint o anghytundeb ymhlith arweinwyr y cyrch ynglŷn â’r ffordd orau i gynnal ardal dim-hedfan.