Effaith y tswnami
Mae mwy na 500 o ddinasyddion Prydain yn Japan wedi cael tabledi iodine i’w gwarchod rhag ymbelydredd.

Ac wrth i’r awdurdodau gyhoeddi eu bod wedi diogelu dau o’r chwech adweithydd yn atomfa Fukushima Dai-ichi, mae pryder o hyd bod pwysau’n codi yn un o’r pedwar arall.

Unwaith eto, y disgwyl yw y bydd peirianwyr niwclear yn ystyried gollwng ymbelydredd yn fwriadol er mwyn lleihau’r peryg o broblem fwy.

Maen nhw wedi bod yn brwydro ers deng niwrnod i geisio rheoli’r gwres yn yr adweithyddion ers iddyn nhw gael eu difrodi gan y daeargryn a’r tswnami yng ngogledd-ddwyrain Japan.

Mae rhagor o olion ymbelydredd wedi eu cael mewn llysiau a bwyd mewn rhannau eraill o Japan, er bod y Llywodraeth yn pwysleisio nad oes unrhyw fygythiad i iechyd pobol.

Rhannu tabledi

Mae’r tabledi iodine ar gael gan swyddogion Prydeinig yn y brifddinas, Tokyo, ac un ddinas arall ac maen nhw’n cael eu rhoi i bwy bynnag sy’n gofyn amdanyn nhw.

Mae gweithwyr y llysgenhadaeth yn Japan hefyd yn parhau i helpu dinasyddion Prydeinig i adael y wlad, er na fydd dim llefydd arbennig ar awyrennau heddiw.

Erbyn hyn, mae arbenigwyr ariannol yn dweud y bydd y trychineb dwbl yn costio tua $235 biliwn i economi Japan, mewn costau uniongyrchol a cholli cynnyrch.

Y ffigwr diweddara’ o ran marwolaethau yw 18,000, gyda mwy nag 8,000 o gyrff wedi’u ffeindio.