Atomfa Fukushima Dai-ichi cyn y daeargryn (KEI CCA 3.0)
Mae’r awdurdodau yn Japan yn dweud eu bod wedi rhoi’r gorau i gynllun bryd i ollwng rhywfaint o ymbelydredd o atomfa Fukushima Dai-ichi.

Erbyn hyn, medden nhw, mae’r pwysau oedd ar gynnydd yn adweithydd rhif 3 yn yr orsaf niwclear wedi llacio.

Roedden nhw wedi ystyried gollwng rhywfaint o ymbelydredd er mwyn lleihau’r peryg o ymbelydredd mwy, wrth iddyn nhw boeni bod ymdrechion i oeri’r adweithydd yn methu.

Ond mae’r pryder ehangach am yr atomfa’n parhau wrth i olion bach o ymbelydredd gael eu nodi mewn bwyd yn yr ardal ac mewn dŵr yn y brifddinas, Tokyo.

Argyfwng ynni

Fe fydd yr awdurdodau hefyd yn ceisio llacio rhywfaint ar yr argyfwng ynni sydd wedi gweld ciwiau anferth o geir a phobol yn aros am danwydd.

Cynyddu hefyd y mae niferoedd y bobol sydd wedi eu lladd gan y daeargryn a’r tswnami a ddifrododd yr atomfa a chwalu trefi a phentrefi yng ngogledd-ddwyrain y wlad bron ddeng niwrnod yn ôl.

Erbyn hyn mae’r cyfanswm tebygol, gan gynnwys cyrff sydd wedi eu darganfod a phobol sydd ar goll, tua 18,000.