Un o'r awyrennau Tornado'n gadael am Libya (Gwifren PA)
Roedd o leia’ dair o awyrennau Prydeinig yn rhan uniongyrchol o’r cyrch i geisio chwalu amddiffynfeydd y Cyrnol Gaddafi yn Libya ac atal ei lu awyr rhag hedfan.
Tros nos, roedd y tair awyren Tornado o Norfolk wedi tanio taflegrau at dargedau yn y wlad, gydag awyrennau tanwydd ac ysbïo yn eu cefnogi.
Ynghynt roedd un o longau tanfor gwledydd Prydain wedi tanio taflegrau Tomahawk at amddiffynfeydd y Cyrnol Gaddafi – fe gafodd 110 eu tanio i gyd dan arweiniad yr Unol Daleithiau.
‘Amddiffynfeydd wedi’u chwalu’
Roedd 20 o awyrennau ymosod o Ffrainc hefyd wedi taro targedau yn Libya – yn ôl yr Unol Daleithiau mae llawer o amddiffynfeydd y Cyrnol Gaddafi wedi eu chwalu.
Mae yntau wedi hawlio bod pobol gyffredin wedi eu taro yn y brifddinas Tripoli ac mae wedi galw ar i bobol y wlad wrthsefyll ymosodiadau’r “Croesgadwyr”.
Dyw hi ddim yn glir eto faint o ddifrod sydd wedi ei achosi gan y cyrchoedd ond mae miloedd o bobol yn ceisio gadael dinas fawr Benghazi wrth i luoedd Libya barhau i ymosod ar y gwrthryfelwyr yno.
Mae’n ymddangos bod gwledydd eraill, gan gynnwys Canada, Denmarc, Sbaen a Norwy, wedi addo anfon awyrennau i ymuno yn yr ymladd ac mae’r Eidal yn caniatáu i’r ymosodwyr ddefnyddio ei meysydd awyr hi.
ASau’n trafod
Fe fydd Aelodau Seneddol yn cael cyfle i drafod y cyrchoedd yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Llun ond mae’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Amddiffyn eisoes wedi eu hamddiffyn.
“Allwn ni ddim sefyll o’r neilltu wrth i ormeswr ddweud wrth ei bobol na fydd yn dangos unrhyw drugaredd,” meddai David Cameron.
“Mae’r weithred hon wedi rhoi neges gref,” meddai’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox. “Fydd y gymuned ryngwladol ddim yn cadw draw wrth i bobol Libya ddiodde’ o dan Gaddafi.”