Awyren yn cael ei saethu i lawr uwchben Benghazi y bore yma
Mae adroddiadau am luoedd Muammar Gaddafi yn ymosod ar ddinas Benghazi y bore yma – wrth i uwch-gynhadledd frys gychwyn yn Paris i gwblhau paratoadau am waharddiad hedfan yn Libya.

Mae Gaddafi ei hun wedi diystyru penderfyniad y Cenhedloedd Unedig sy’n awdurdodi grym milwrol fel un “annilys”, ac mae’n rhybuddio’r Prif Weinidog David Cameron y byddai Prydain yn “difaru” os byddai’n ymyrryd yn Libya.

Yn ôl y gwrthryfelwyr, un o’u hawyrennau nhw a gafodd ei saethu i lawr yn Benghazi, gan luoedd Gaddafi yn ôl pob golwg.

Mewn llythyr agored at David Cameron, Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, dywed Gaddafi:

“Nid chi biau Libya. Mae Libya ar gyfer pobl Libya. Mae penderfyniad y Cyngor Diogelwch yn annilys.

“Fe fyddwch chi’n  difaru os meiddiwch chi ymyrryd yn ein gwlad ni.”

Mewn neges ar wahân at Arlywydd America, Barack Obama, mae’n gofyn iddo: “Pe baech chi’n eu gweld nhw’n meddiannu dinasoedd America gyda grym arfog, beth fyddech chi’n ei wneud?”

Roedd cyfundrefn Gaddafi wedi cyhoeddi cadoediad ddoe ar ôl i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig basio cynnig 1973, sy’n caniatáu “unrhyw fesurau angenrheidiol” sy’n fyr o oresgyniad milwrol gan wlad dramor er mwyn amddiffyn poblogaeth sifil Libya.

Ond mae ei wrthwynebwyr wedi dilorni ei gyhoeddiad fel “y celwydd mwyaf erioed”, gan fynnu bod ei luoedd yn barhau i ymosod ar ddinasoedd gan gynnwys Benghazi, Misrata a Ajdabiya.

Roedd adroddiadau am bobl gyffredinol yn cael eu defnyddio fel “tariannau dynol” mewn lleoliadau a fyddai’n dargedau posibl i ymosodiadau gan wledydd eraill.

Ymysg yr arweinwyr yn yr uwch-gynhadledd yn Mlas Elysee yn Paris mae David Cameron, Nicolas Sarkozy, Ban Ki-moon ac Ysgrifennydd Gwladol America, Hillary Clinton.