Mae’r heddlu yn Syria yn cadw pobl draw o ddinas yn ne’r wlad ar ôl i bump o brotestwyr gael eu lladd yno ddoe, yn ôl ymgyrchydd  hawliau sifil yno.

Dywed Mazen Darwish fod pobl yn cael mynd allan Daraa ond na allan nhw ddod i mewn.

Cafodd o leiaf bump o bobl eu lladd ddoe wrth i’r heddlu a’r milwyr ymosod yn ddidosturar brotestwyr a oedd yn galw am ryddid gwleidyddol.

Dyma’r helynt gwaethaf ers blynyddoedd yn un o wledydd mwyaf gormesol y dwyrain canol.

Mae’n ymddangos mai bwriad yr awdurdodau yw ceisio ynysu’r ddinas er mwyn osgoi’r gwrthdaro rhag ymestyn i rannau eraill o’r wlad.