David Cameron - awyrennau'n paratoi
Mae Gweinidog Tramor Libya, Moussa Koussa, wedi cyhoeddi oedi yn yr ymladd yn erbyn gwrthryfelwyr gyda phob cyrch milwrol yn cael eu hatal.

Fe ddaw’r cadoediad ar ôl i’r Cenhedloedd Unedigbenderfynu o blaid creu ardal dim-hedfan yn y wlad ac ymosod ar luoedd y Cyrnol Gaddafi.

Does dim ymateb wedi bod eto gan wledydd y gorllewin.

Anfon awyrennau

Roedd David Cameron newydd gyhoeddi y byddai Prydain yn anfon awyrennau o’u llu awyr i ymuno yn y gweithredu er mwyn atal awyrennau Libya rhag codi ac ymosod ar y gwrthryfelwyr.

Fe ddywedodd Prif Weinidog Prydain wrth Dŷ’r Cyffredin bod paratoadau eisoes wedi dechrau a byddai’r awyrennau RAF Tornado a Typhoon yn teithio i feysydd awyr yn y rhanbarth “ o fewn yr oriau nesaf.”

‘Angen cymorth’ meddai Cameron

Fe ddywedodd David Cameron bod angen cymorth brys yn Libya ar ôl i awyrennau’r Llywodraeth yno ddechrau ymosodiadau o’r awyr ar gadarnle’r gwrthryfelwyr yn Benghazi.

“Mae angen i ni weithredu ar frys am nad ’yn ni am weld lladdfa yn Benghazi a gormes pellach ar drigolion Libya,” nododd David Cameron.

Mae Gweinidog Tramor Libya wedi dweud y bydd y cadoediad yn sicrhau diogelwch i’r wlad a’i phobol.

Ond fe feirniadodd Moussa Koussa benderfyniad y Cenhedloedd Unedig i ganiatáu gweithredu milwrol rhyngwladol yn Libya, gan ddweud ebod hynny’n drosedd yn erbyn sofraniaeth Libya.