Un o'r streicwyr ym Mhrifysgol Caerdydd (o wefan yr undeb)
Mae cannoedd o ddarlithwyr wedi bod ar streic yn rhai o brifysgolion Cymru heddiw a’u hundeb yn dweud bod y gefnogaeth yn “dda”.
Roedd cryfder y gweithredu tros bensiynau darlithwyr yn “dangos pa mor angerddol y mae staff yn teimlo,” meddai llefarydd ar ran Undeb y Prifysgolion a’r Colegau, UCU, wrth Golwg360 heddiw.
“A chysidro’r tywydd mae’r gefnogaeth wedi bod yn wych,” meddai llefarydd ar ran yr Undeb.
Mae darlithwyr mewn pum sefydliad gwahanol ar draws Cymru wedi bod ar streic yn dilyn cynlluniau am newidiadau i’w pensiynau.
Roedd picedwyr allan ben bore ym Mhrifysgolion Bangor, Y Drindod Dewi Sant, Abertawe, Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd wedi bod ar streic heddiw.
Bygwth diwrnod arall o weithredu
Fe ddywedodd y llefarydd UCU wrth Golwg360 fod presenoldeb a chefnogaeth “dda” wedi bod ar draws y pum sefydliad ac roedd yn rhybuddio y bydd diwrnod arall o weithredu ar draws gwledydd Prydain yr wythnos nesa’.
“Dydyn ni ddim yn mynd i ollwng ein galwad am drafodaethau gyda’r cyflogwyr,” meddai’r llefarydd.
“Os nad oes cynnydd erbyn dydd Iau nesaf – bydd diwrnod cenedlaethol o weithredu ar draws Y Deyrnas Unedig”.